Copper Glossary
Alloy - A combination of two or more metals. This will often make a stronger product, or one more resistant to corrosion.
Barque - A sailing ship with three or more masts. The sails are set at right angles across the ship, apart from the ones at the back, which are in line with the hull.
Bessemer Process - A method of removing sulphur and other impurities from partially processed metal. A powerful blast of air is blown through the molten metal, causing a chemical reaction. The waste products are removed as gas or solids called slag. The inventor of the process was Henry Bessemer of London.
Brigantine - A sailing ship with two masts. The front sails are set at right angles across the ship and the ones on the main mast are in line with the hull.
Cape Horners - Common name given to seamen who sailed around Cape Horn in South America, on the journey to the west coast.
Cartel - An association of manufacturers or suppliers that aims to fix prices (usually at a high level) and restrict competition.
Japanning - A European imitation of Asian laquerwork. Varnishes were used to produce a shiny black surface. Originally used on wood but adapted to metal for decoration and to protect against corrosion.
Mill - The buildings where copper was processed into useful objects. Plates, sheets, rods, wire and bolts were produced in rolling mills; vessels and other items in hammer or battery mills.
Mule train - A connected line of mules (a cross between a donkey and a horse) used to carry goods between places where roads, canals or railways did not exist.
Ore - A rock containing metals in mineral form. The most common copper ore is chalcopyrite, a copper iron sulphide mineral.
Refining - The final process of purifying metal to remove remaining impurities.
Electrolytic refining produces the purest metal. Impure copper is placed in acid with a sheet of pure copper and electricity is passed through. The impure metal dissolves and the copper in it becomes attached to the pure sheet. The impurities stay in the acidic solution.
Reverberatory furnace - In this furnace the fuel (for copper it was coal) is separated from the ore or partly smelted metal by a low wall. The heat from the fuel is reflected or reverberated over the material being processed.
Roasting - One of the initial stages of extracting metal from ores.
Schooner - A sailing ship usually with two or three masts and sails set in linewith the hull. Sloop - A sailing ship with one mast and sails set in line with the hull.
Smack - A small sailing boat used for coastal journeys. It has one mast and sails set in line with the hull.
Smelting - The method of extracting metals from ores by heating and melting to remove impurities. A smelter is the factory where metal is extracted and also the name of the business involved in smelting.
Tariff - Tax, or Duty, paid on imported and exported goods.
Telegraph - A system of transmitting written messages over a long distance along wires and cables by an electrical pulse. Telegraph was used before the invention of the telephone.
Ticketing - An event at which ores were sold by mining companies and bid for by smelters’ agents.
Welsh Process - A series of multiple stages for extracting copper from its ore through roasting, smelting and refining in a series of reverberatory furnaces.
Yellow Metal - An alloy of copper and zinc. The composition varied from 50- 63% copper and 37-50% zinc. Also known as Muntz Metal after its inventor, George Frederic Muntz of Birmingham.
Geirfa'r Arddangosfa Copr
Aloi - Cyfuniad o ddau neu ragor o fetelau. Bydd hyn yn aml yn gwneud cynnyrch cryfach, neu un sy'n gallu gwrthsefyll cyrydiad yn well.
Barc - Llong hwylio gyda thri neu ragor o fastiau. Caiff yr hwyliau eu gosod ar ongl sgwâr ar draws y gwch, ar wahân i'r rhai yn y cefn sy'n rhedeg gyda chorff y llong.
Brigantin - Llong hwylio gyda dau fast. Caiff yr hwyliau blaen eu gosod ar ongl sgwâr ar draws y gwch ac mae'r rhai ar y prif fast yn rhedeg gyda chorff y llong.
Cartél - cymdeithas o wneuthurwyr neu gyflenwyr sy'n anelu i osod prisiau (fel arfer ar lefel uchel) a chyfyngu ar gystadleuaeth.
Coethi - Y broses olaf o buro metel er mwyn cael gwared ar unrhyw amhuredd sydd ar ôl.
Coethi electrolytig sy'n cynhyrchu'r metel puraf. Rhoddir copr amhur mewn asid gyda dalen o gopr pur a chaiff trydan ei basio drwyddo. Mae'r metel amhur yn toddi ac mae'r copr ynddo'n ymgysylltu â'r ddalen bur. Mae'r amhureddau yn aros yn y toddiant asidig.
Ffwrnais adlewyrchol - yn y ffwrnais hon caiff y tanwydd (glo oedd y tanwydd ar gyfer copr) ei wahanu oddi wrth y mwyn neu'r metel sydd wedi'i fwyndoddi'n rhannol gan wal isel. Mae'r gwres o'r tanwydd yn cael ei adlewyrchu dros y deunydd sy'n cael ei brosesu.
Japanio - copi Ewropeaidd o waith lacro Asiaidd. Roedd farneisiau'n cael eu defnyddio i gynhyrchu gorffeniad du sgleiniog. Yn wreiddiol fe'i defnyddid ar bren ond cafodd ei addasu ar gyfer metel er mwyn addurno ac i warchod yn erbyn cerydu.
Melin - yr adeiladau lle'r oedd copr yn cael ei brosesu i greu nwyddau defnyddiol. Roedd platiau, llenni, rodiau, gwifren a bolltau'n cael eu cynhyrchu mewn melinau rholio; roedd llestri ac eitemau eraill yn cael eu creu mewn melinau morthwyl neu fatri.
Metel Melyn - aloi o gopr a sinc. Roedd cyfansoddiad hwn yn amrywio o 50-63% copr a 37-50% sinc. Enw arall arno oedd Metel Muntz, ar ôl ei ddyfeisydd, George Frederic Muntz o Birmingham.
Morwyr yr Horn - yr enw a roddir ar y morwyr oedd yn hwylio rownd yr Horn yn Ne America ar y daith i'r arfordir gorllewinol.
Mwyn - craig sy'n cynnwys metelau ar ffurf mwynau. Y mwyn copr mwyaf cyffredin yw calcopyrit, mwyn copr sylffid haearn.
Mwyndoddi - y dull o echdynnu metelau o'r mwynau drwy wresogi a thoddi i gael gwared ar amhureddau. Mwyndoddwr yw'r ffatri lle mae'r metel yn cael ei echdynnu a dyna hefyd enw'r busnes sy'n gwneud y gwaith.
Proses Bessemer - Dull o dynnu sylffwr ac amhureddau eraill allan o fetel sydd wedi ei brosesu'n rhannol. Mae chwythiad pwerus o aer yn cael ei chwythu drwy'r metel tawdd gan achosi adwaith cemegol. Caiff y cynnyrch gwastraff ei dynnu allan fel nwy neu fel solidau a elwir yn slag. Dyfeisydd y broses oedd Henry Bessemer o Lundain.
Proses Gymreig - cyfres o gamau ar gyfer echdynnu copr o'i fwyn drwy rostio, mwyndoddi a choethi mewn cyfres o ffwrneisi adlewyrchol.
Rhostio - un o gamau cyntaf echdynnu metel o fwynau. Sgwner - llong hwylio gyda dau neu dri mast fel arfer a'r hwyliau wedi eu
gosod i redeg gyda chorff y llong.
Slŵp - llong hwylio gydag un mast a hwyliau wedi eu gosod i redeg gyda chorff y llong.
Smac - cwch hwylio bach oedd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer teithiau ar hyd yr arfordir. Mae ganddo un mast a hwyliau sy'n rhedeg gyda chorff y llong.
Tariff - treth neu doll oedd yn cael ei dalu ar nwyddau oedd yn cael eu mewnforio neu eu hallforio.
Telegraff - system o drawsyrru negeseuon ysgrifenedig dros bellteroedd maith ar hyd gwifrau a cheblau drwy ddefnyddio pwls electronig. Roedd telegraff yn cael ei ddefnyddio cyn i'r ffôn gael ei ddyfeisio.
Tocynnu - digwyddiad lle byddai mwynau'n cael eu gwerthu gan gwmnïau mwyngloddio gydag asiantau mwyndoddwyr yn bidio amdanynt.
Trên mulod - rhes o fulod wedi cysylltu at ei gilydd (mae mul yn groesiad rhwng asyn a cheffyl) a ddefnyddiwyd i gludo nwyddau rhwng llefydd lle nad oedd ffyrdd, camlesi n rheilffyrdd yn bod.